Skip to main content

Bydoedd Niclas Y Glais

Mae Robert Griffiths yn traddodi Darlith Coffa TE Nicholas (‘Niclas y Glais’) ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Dyma grynodeb o’r darlith

GANWYD NICLAS ym 1879 pan oedd imperialaeth yn lledaenu ar draws y rhan fwyaf o’r byd, dan arweiniad cyfalaf monopoli Prydain ond hefyd pan oedd cyfalaf America a’r Almaen fwyfwy yn mynnu eu lle yn yr haul.

Roedd y Raj Prydeinig yn nesáu at ei anterth, tra bod darostwng Affrica gan Brydain ar fin ei gwblhau.

Dechreuodd Niclas ei fywyd yng Nghrymych, gogledd Sir Benfro, ychydig i’r gogledd-orllewin o faes glo De Cymru. Erbyn hynny, roedd glo stêm Cymreig yn pweru llynges ymerodrol Prydain.

Daeth y glowyr i chwarae rhan arwyddocaol yn y mudiad llafur Prydeinig, yn enwedig ar ôl sefydlu Ffederasiwn Glowyr De Cymru yn 1898.

Roedden nhw’n ffurfio rhan o sylfaen y mudiad hwnnw a’i sefydliadau gwleidyddol fel y Blaid Lafur Annibynnol ac wedyn y Blaid Lafur dorfol ei hun. Roedd nifer o’r sefydliadau hynny — llyfrgelloedd y glowyr, y Gynghrair Plebs, y Coleg Llafur Canolog, papurau wythnosol fel Llais Llafur a’r Rhondda Socialist — yn ysgogi ac yn addysgu’n wleidyddol cnewyllyn grymus o fewn dosbarth gweithiol milwriaethus.

I mewn i’r byd hwn yr oedd Niclas y Glais ar fin ei daflu ei hun.

Yn y dechrau, bu’n gweithio am gyfnod byr yn Nhreherbert, cyn astudio ar gyfer y weinidogaeth yn yr Academi Gwynfryn yn Rhydaman. Yno, daeth i gysylltiad â syniadau Sosialaidd Cristnogol y Parchedig R. J. Campbell, cydweithrediad comiwnyddol Robert Owen — a oedd yn cydfynd â’r traddodiad o gydweithredu rhwng tyddynwyr ei fro — a gwladgarwch Cymreig blaengar Robert Jones Derfel yn ei farddoniaeth a’i sosialaeth.

Ar ôl cyfnod byr fel gweinidog mewn capeli Cymraeg yn Llandeilo a Wisconsin, yn yr Unol Daleithiau, cyrhaeddodd Niclas bentref glo o’r enw Glais yng Nghwm Tawe. Yno, a hyd yn oed yn fwy felly ym Merthyr Tudful fel golygydd colofnau Cymraeg papur Keir Hardie, y Pioneer, gwelodd Niclas y rhyfel dosbarth yn ei holl greulondeb noeth.

Yn y byd cyntaf hwn o du Niclas y Glais, gwelwn ei sylweddoli fod “Y Byd yn Fwy na Chymru,” a’i ymdrechu i roi cyfiawnhad dwyfol (fel yn y gerdd ‘Weithwyr Fy Ngwlad’) i frwydr y mudiad llafur am gyfiawnder cymdeithasol. O fewn ychydig o flynyddoedd o gyhoeddi Salmau’r Werin ym 1909, mae Niclas yn gwawdio culni cenedlaethol a’r ymdeimlad o fod yn uwchraddol o eiddo beirdd gwladgarol.

Dadleuodd ef o blaid cenedlaetholdeb Cymreig a oedd yn gwrthod cydweithrediad dosbarth, yr Ymerodraeth Brydeinig a Brenhiniaeth Lloegr ac yn mynnu statws swyddogol i’r iaith Gymraeg, hunanlywodraeth i Gymru a sosialaeth.

Yn ‘Y Streic’, mae Niclas yn llawn dicter a chasineb dosbarth yn dilyn y gwrthdaro rhwng glowyr a’r heddlu wedi’u mewnforio yn Nhonypandy a threfi eraill yn 1910, pan oedd de Cymru o dan feddiannaeth filwrol. Mae’n lladd ar y tirfeddianwyr segur, y cyfoethogion, yr heddlu sy’n ‘taro hen wragedd i lawr’ a’r milwyr sy’n “cerdded y stryd, a’u gynnau’n terfysgu’r cwm.”

Wele’i genhadaeth o’r amser hwn ymlaen: ‘Anadlaf chwyldroad i mewn, i galon dyn ymhob man’.

Creodd y Rhyfel Mawr rhwng y pwerau imperialaidd yr amodau lle byddai byd cyntaf Niclas y Glais yn diflannu am byth.

Yn ei gerdd “Dros Eich Gwlad,” mae e’n gwawdio’n hallt y rhyfelgarwch Prydeinig dinistriol a ddefnyddir i recriwtio gweithwyr ifanc Cymru i liwiau’r brenin.

Cafodd ail fyd Niclas y Glais — ‘Byd y Werin’ — ei eni yn gyflafan y Rhyfel Mawr imperialaidd ac yng nghynnwrf chwyldro sosialaidd Rwsia.

Croesawodd Nicholas y ddau chwyldro yno. Gwyddai nad oedd y dosbarth gweithiol wedi cwblhau ei newid gwleidyddol o Ryddfrydiaeth i Llafuriaeth eto, ond roedd hefyd yn deall bod angen blaengad feiddgar, weledigaethol a digyfaddawd ar y mudiad llafur. Roedd ei le ar yr haenell droed, yn rhofio’r glo yn y gwres a’r chwys a’r perygl — nid yn y cerbydau neu fan y gwarchod yn y cefn.

O hynny ymlaen, roedd ymrwymiad Niclas y Glais i’r Blaid Gomiwnyddol, i’r mudiad comiwnyddol rhyngwladol ac i’r Undeb Sofietaidd yn nodwedd ganolog ei wleidyddiaeth a’i farddoniaeth a’i newyddiaduraeth.

Er bod gweithwyr yn gadael capeli’r cymoedd de Cymru yn eu miloedd, yn union fel roedd Niclas ei hun yn cefnu ar y pulpud, mynegodd syniadau sosialaidd a chomiwnyddol drwy gyfrwng yr iaith grefyddol. Er enghraifft, cyflwynodd Keir Hardie a Lenin fel ffigurau tebyg i Grist. Roeddent wedi dod ar y ddaear i arwain eneidiau o’r anialwch, gan dynnu llid Mamon ar eu pennau.

Roedd ymweliad Niclas â’r Undeb Sofietaidd yn 1935 yn cadarnhau ei gred y gallai’r gweithwyr adeiladu byd newydd o gymrodoriaeth, cydweithrediad a chyfiawnder cymdeithasol; nid oedd angen aros am y byd nesaf ar ôl marwolaeth. Fel y dywedodd mewn llythyr at Y Cymro, mae cyfundrefn Rwsia yn “adlewyrchu crefydd Crist yn llwyrach na’n cyfundrefn ni.”

Yn sicr, ni allai Niclas y Glais barhau i fod yn heddychwr yn ei ail fyd, sef “Byd y Werin.” Yn fwy nag unrhyw fater arall, roedd y rhyfel yn Sbaen yn erbyn ffasgaeth ryngwladol yn gorfod iddo dderbyn bod grym milwrol yn angenrheidiol mewn achos cyfiawn. Arhosodd yn heddgarwr ond peidiodd â bod yn heddychwr.

Cyflawnodd rôl flaenllaw yn y frwydr boblogaidd iawn i anfon bwyd, dillad a gwirfoddolwyr yn y Brigadau Rhyngwladol i amddiffyn Gweriniaeth Sbaen a democratiaeth yn erbyn lluoedd unedig Franco, Hitler a Mussolini. Ar ôl gorchfygiad y Weriniaeth, bu Niclas yn drysorydd pwyllgor a gododd arian i osod cofeb mewn ysbyty newydd yn Stalingrad i’r Brigadwyr o Gymru a laddwyd yn Sbaen.

Yn unol â’i blaid, credai fod ymosodiad yr Almaen Natsïaidd ar Rwsia ym 1941, ynghyd â’r brwydrau dan arweiniad Comiwnyddion gan fwyaf yn erbyn meddiannaeth ffasgaidd yng nghanolbarth a gorllewin Ewrop, yn troi’r ail ryfel imperialidd y byd yn rhyfel y werin bobl yn erbyn ffasgaeth.

Yn bendant, daeth yr Ail Ryfel Byd ag ail fyd Niclas i ben yn ystod y fuddugoliaeth dros ffasgaeth. Allan o’r lludw fyddai trydydd byd Niclas y Glais yn ymgodi.

Gwyddai Niclas ar ba ochr oedd yn sefyll fel y ddau arch-bŵer niwclear yn wynebu ei gilydd mewn ‘Rhyfel Oer’ a fyddai, petai’n troi’n boeth, yn dileu dinasoedd a rhanbarthau cyfan.

Eisteddodd Niclas ar gorff cyffredinol Cyngor Heddwch y Byd ac ar ei Bwyllgor Heddwch Prydeinig. Mae tri ffeil y Gwasanaeth Diogelwch (MI5) ar Niclas — sydd bellach yn yr Archifau Cenedlaethol — ac maen nhw’n cynnwys copïau o lythyrau wedi’u hymyrryd ynghyd â dogfennau mewnol y mudiad heddwch. Agorwyd ei bost i’r Pwyllgor Heddwch Prydeinig yn rheolaidd; cofnodwyd ei alwadau ffôn i bencadlys y Blaid Gomiwnyddol yn King Street, Llundain, a chafodd ei weithgareddau yn y Cyngor Heddwch eu harchwilio’n fanwl gan y Gwasanaeth Cudd (MI6).

Yn wahanol i’r ‘40au, nid oedd y ‘50au yn ddegawd ffrwythlon ar gyfer barddoniaeth Niclas. Fodd bynnag, roedd cyrraedd tanciau Gorllewin yr Almaen a NATO yn Sir Benfro, a llu goresgyn yn Bae Moch Ciwba o dan hyfforddiant yr Unol Daleithiau, yn ei ysgogi i gyfansoddi’r soned “Cuba a Chymru” ym 1961.

Daeth y gerdd i ben gyda’r geiriau: “Yn Cuba draw, milwyr y fall a’r Ianc, yng Nghymru fach Hitler a’i leng a’i dranc.”

Un o sonedau olaf Niclas, ym 1969, oedd sylwi ar arwisgiad mab frenhines Lloegr fel “tywysog Cymru.” Mae “Syrcas Caernarfon” yn cynrychioli Niclas ar ei orau mwyaf gwawdlyd, gan ddatgan fod y “gymanfa gwallgofiaid Cymru” hon yn troi ystafelloedd y castell yn “dylcau moch.”

Bu farw Niclas ym 1971 ac mae’r byd yn sicr wedi’i drawsnewid unwaith eto ers hynny. Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd a gwledydd sosialaidd eraill, mae cyfalafiaeth monopoli a’r prif bwerau imperialwyr yn Nato a’r Undeb Ewropeaidd wedi ymestyn yn fwy ar draws y byd.

Byddai’n deall yn glir pam y mae angen mudiadau fel CND, Atal y Rhyfel, y Cynulliad Heddwch Prydain a Chyngor Heddwch y Byd gymaint ag erioed. Byddai hefyd yn falch o gynnydd Tsieina fel pŵer economaidd a gwleidyddol mawr yn y “Drefn Byd Newydd.”

Byddai’n mynnu na fydd dyfodol Cymru, ei chymunedau, ei hunaniaeth a’r iaith Gymraeg byth yn ddiogel ar sail cyfalafiaeth a lluoedd ei farchnad. Byddai’n ein hannog i edrych y tu hwnt i’n ffiniau cenedlaethol, hefyd, tuag at undod sosialaidd a chydymlyniad dosbarth gweithgar yn erbyn imperialaeth.

Y cwestiwn ar gyfer ein beirdd yng Nghymru heddiw yw: “pwy yn y Drefn Byd Newydd fydd ein Niclas newydd, ein ‘llais y werin?”

Robert Griffiths is delivering the annual T E Nicholas Memorial Lecture at the National Eisteddfod in Cardiff today. A summary of his lecture will be published in English in tomorrow’s Morning Star.

OWNED BY OUR READERS

We're a reader-owned co-operative, which means you can become part of the paper too by buying shares in the People’s Press Printing Society.

 

 

Become a supporter

Fighting fund

You've Raised:£ 11,501
We need:£ 6,499
6 Days remaining
Donate today